Yr Academi

Academi Hijinx yw'r unig gwrs hyfforddi perfformio proffesiynol ar gyfer actorion ag anableddau dysgu yng Nghymru

Cyrsiau hyfforddi galwedigaethol mewn sgiliau perfformio yw Academïau Hijinx, ar gyfer actorion ag anableddau dysgu.

Cyrsiau hyfforddi galwedigaethol mewn sgiliau perfformio yw Academïau Hijinx, ar gyfer actorion ag anableddau dysgu. Mae’r cynnwys y cwrs yn esblygu o hyd, ac yn y gorffennol mae wedi cynnwys:

  • Theatr gorfforol
  • Gwaith byrfyfyr
  • Gwaith mygydau
  • Actio ar gyfer camera a radio
  • Commedia dell’Arte
  • Theatr Fforwm
  • Dawns

Oherwydd llwyddiant ein Academi cyntaf yng Nghaerdydd , rydym yn awr yn rhedeg dau Academïau yng Nghaerdydd , un ym Mhrestatyn , un yng Nghaerfyrddin a phumed Academi yn fod i agor yn Aberystwyth yn ddiweddarach yn 2016.

Ein gweledigaeth yw newid tirlun y celfyddydau yng Nghymru fel y bydd hi’n gyffredin gweld a chlywed perfformwyr ag anableddau dysgu ar ein llwyfannau,ein sgriniau a’n tonfeddi.

Ein nod yw creu cymuned Cymru gyfan o actorion ag anableddau dysgu sydd wedi cael eu hyfforddi i weithio’n broffesiynol yn y theatr, ar y teledu a’r radio.

Dysgwch ragor am yr Academïau Hijinx. Lawrlwythwch y prosbectws Academi yma.


Academïau Rhanbarthol

Fe hoffen ni gael clywed gan bobl eraill fyddai â diddordeb gweithio mewn partneriaeth â ni i'w cynnal. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dan McGowan.

 

Swyddi tiwtora parhaus gwych i berfformwyr proffesiynol

Mae Hijinx yn agor rhagor o'i Academïau hynod lwyddiannus yng Nghaerdydd, Casnewydd a Bro Morgannwg, er mwyn cynnig hyfforddiant i actorion sy'n oedolion sydd ag anableddau dysgu. Ac mae angen rhagor o diwtoriaid arnon ni!

Os:

  • ydych chi'n berfformiwr proffesiynol sy'n weithgar ar hyn o bryd (mewn theatr, dawns, ffilm a theledu, clownio...);
  • oes gyda chi brofiad cryf o arwain gweithdai perfformio;
  • oes diddordeb gyda chi mewn gweithio'n gynhwysol a gydag oedolion ag anableddau dysgu...

...rydyn ni am glywed gennych.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch a Dan McGowan.

 

Newyddion Diweddaraf
Hijinx Academi y Canolbarth Cymru

Ymunwch â ni yn Hijinx Academi y Canolbarth Cymru

Darllen rhagor
DATGANIAD I’R WASG: Gŵyl Undod Hijinx 2017

Gyda 50 diwrnod i fynd, mae Hijinx yn rhestru’r perfformwyr anabl fydd yn cymryd rhan yng Ngŵyl Undod Hijinx eleni, 28 Mehefin - 2 Gorffennaf 2017.

Darllen rhagor
Told by an Idiot a Hijinx yn Mehefin

Weithio gyda’r cwmni theatr byd-enwog hwn i greu ‘Cabare Gwaed’, perfformiad hwyrnos gwreiddiol sy’n ymddangos yng Ngŵyl Undod Hijinx eleni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Darllen rhagor