Hyfforddiant Busnes

Hyfforddiant Busnes

Arbenigol: yn canolbwyntio ar sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid er mwyn rhyngweithio â chwsmeriaid sydd ag anableddau dysgu, cwsmeriaid sy'n agored i niwed, cleientiaid a defnyddwyr gwasanaeth.

Unigryw: yn cael ei ddarparu gan hyfforddwyr sydd ag anableddau dysgu a’i arwain gan hwylusydd profiadol o Hijinx.

Enillgar: yn defnyddio technegau theatr rhyngweithiol i wella dysgu a mwynhad.

Wedi ei deilwra: yn nodi eich heriau wrth gyfathrebu â chwsmeriaid ag anableddau dysgu ac archwilio atebion, a hynny mewn modd creadigol.

Arobryn: mae ein hyfforddiant arloesol wedi ennill gwobrau i Hijinx ac i'n cleientiaid hefyd.

Manteision i gyfranogwyr:

  • Yn galluogi staff i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i gwsmeriaid sy'n agored i niwed, cleientiaid a defnyddwyr gwasanaeth;
  • Yn cynnig y cyfle i staff ryngweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu sydd â phersonoliaethau a galluoedd cyfathrebu amrywiol;
  • Yn rhoi amgylchedd diogel i’r staff allu gofyn cwestiynau ac archwilio ffyrdd newydd o weithio, gan ddysgu oddi wrth a chyda'u cyfoedion;
  • Wedi cael profiad o weithio gyda chleientiaid ar draws pob sector o gyfleustodau i ofal iechyd.

Manteision i'ch sefydliad

  • Yn dangos eich ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth;
  • Yn eich gosod chi ar flaen y gad o ran gwasanaeth cwsmeriaid cynhwysol;
  • Rydych yn galluogi oedolion sydd ag anableddau dysgu i gael mynediad i waith cyflogedig ystyrlon ac i gael mwy o annibyniaeth ariannol;
  • Cynyddu ymgysylltiad staff trwy ddatblygiad personol a phroffesiynol.
Newyddion Diweddaraf
Hijinx Academi y Canolbarth Cymru

Ymunwch â ni yn Hijinx Academi y Canolbarth Cymru

Darllen rhagor
DATGANIAD I’R WASG: Gŵyl Undod Hijinx 2017

Gyda 50 diwrnod i fynd, mae Hijinx yn rhestru’r perfformwyr anabl fydd yn cymryd rhan yng Ngŵyl Undod Hijinx eleni, 28 Mehefin - 2 Gorffennaf 2017.

Darllen rhagor
Told by an Idiot a Hijinx yn Mehefin

Weithio gyda’r cwmni theatr byd-enwog hwn i greu ‘Cabare Gwaed’, perfformiad hwyrnos gwreiddiol sy’n ymddangos yng Ngŵyl Undod Hijinx eleni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Darllen rhagor